Beth yw’r Her Fawr Werdd?

Mae’r Her Fawr Werdd gan NESTA yn gronfa wobr £1 miliwn gyda’r nod o annog a gwobrwyo pobl sy’n cydweithio. Rydym eisiau i gystadleuwyr ddatblygu a gweithredu ymagweddau newydd a fydd yn arwain at ostyngiad o 60% mewn allyriannau CO2 yn eu cymunedau.

Gallwn ni i gyd helpu i ymdrin â materion mawr. Mae gennym ni’r gallu i arloesi, i newid pethau a gwneud gwahaniaeth. Mae ein cyfraniad, yn arbennig fel rhn o gymuned ehangach, yn gallu bod llawn mor bwysig â chyfraniad llywodraethau, gwyddonwyr, neu fusnesau mawr.

Gwyddon ni fod digonedd o bobl allan yno sydd â syniadau da i ymdrin â newid hinsawdd. Drwy eich annog i weithio gyda’ch gilydd - gan droi syniadau yn weithredoedd drwy gynnwys a diddori’ch cymuned - credwn fod gennych chi’r potensial i leihau allyriannau CO2 ar raddfa fawr, yn gynt ac chyda mwy o effaith.

Dyna pam datblygom ni’r Her Fawr Werdd. Mae’r gystadleuaeth yn annog ymagweddau ac atebion newydd i newid hinsawdd, a’n gobaith yw gweld dyblygu’r rhain ar draws cymunedau gwahanol i gyflawni gostyngiadau uwch mewn allyriannau CO2 ar raddfa ehangach.

Deallwn fod hon yn her uchelgeisiol ac anodd. Dyna pam rydym yn gweithio gyda phartneriaid fel UnLtd i gynnig cyngor, anogaeth a chymorth ymarferol i’r sawl sy’n cymryd rhan.

Pwy yw NESTA?

Mae NESTA - y Gwaddoliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau, yn gweithio’n agos gyda’r llywodraeth ac yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Nid oes gennym unrhyw gyfranddeiliaid a defnyddiwr y llog sy’n deillio o’n cronfeydd gwaddoledig i gefnogi’n gweledigaeth o Deyrnas Unedig fywiog sy’n arwain y byd ym maes cymhwyso gwybodaeth, menter a chreadigrwydd.

Mae’r Her Fawr Werdd yn un o sawl prosiect arbrofol, effaith fawr sydd wedi eu datblygu gan y tîm Heriau Arloesi yn NESTA. Dyma un o’r ffyrdd rydym yn arloesi ymagweddau newydd at symbylu arloesi o amgylch y DU ac yn adeiladu corff o dystiolaeth am sut orau i annog a chefnogi arloesi.

mwy o fanylion am NESTA, edrychwch ar in gwefan

Pobl wrth y llyw…pwy all gymryd rhan?

Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom ni i gyd ac rydym i gyd yn rhan o gymunedau beth bynnag ein hoedran, rhyw, gall, hil neu leoliad. Dyna pam roeddem ni eisiau i ystod mor eang â phosibl o bobl gymryd rhan. Felly er bod ceisiadau i’r Her Fawr Werdd wedi cau erbyn hyn, mae llawer o ffyrdd eraill y gallwch chi gymryd rhan.

Rydym am i bawb ddangos eu cefnogaeth, a chael eu hysbrydoli i gymryd camau eu hunain, gobeithio, drwy ddilyn cynnydd y Terfynwyr drwy’r wefan yma.

Bydd angen i grwpiau a sefydliadau sy’n cystadlu yn yr Her Fawr Werdd gynnwys a diddori eu cymunedau perthnasol wrth ddatblygu atebion ac wrth gwireddu eu hymagweddau. Os oes gennych chi Derfynydd yn eich ardal chi, beth am gysylltu â nhw a gweld sut allwch chi gefnogi eu prosiect nhw.

Os ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad â diddordeb mewn cynnig cyngor, cefnogaeth ariannol neu gefnogaeth arall i’n cystadleuwyr ac i Gystadleuaeth yr Her Fawr Werdd, cysylltwch â partners@biggreenchallenge.org.uk

Byddwn ni’n cyhoeddi astudiaethau achos, cysylltiadau, cynghorion a straeon am yr Her Fawr Werdd ar ein blog ac yn ein newyddlen - felly cofrestrwch er mwyn cadw mewn cysylltiad (dilynwch y botwm mewngofnodi i gofrestru os nad ydych wedi gwneud yn barod). Ac mae pob croeso i chi anfon e-bost atom gyda’ch straeon a’ch meddyliau chi am yr Her Fawr Werdd a’n Cystadleuwyr.

Beth mae’n ei olygu?

Mae’r Her Fawr Werdd gan NESTA yn gystadleuaeth weithredol. Nid yw’n ymwneud â syniadau yn unig, er y bydd syniadau da yn helpu, wrth reswm. Mae’n golygu rhoi syniadau ar waith. Bydd yr Her yn digwydd dros ddwy flynedd o fis Hydref 2007 I fis Hydref 2009.

Cam 1: Dyddiad cau 11:59pm, 3 Mawrth 2008

Erbyn hyn mae ceisiadau wedi cau am yr Her Fawr Werdd

Cam 2:
Gofynnwyd i’r grwpiau a gyrhaeddodd y rhestr fer gyflwyno cynlluniau am eu hymagwedd at weithredu, monitro a dangos y gostyngiad mewn allyriannau CO2 (a ffactorau cysylltiedig eraill) yn eu cymuned.

O’r rhain, penderfynodd ein beirniaid ar ddeg terfynydd, sydd wedi symud ymlaen i’r cam olaf sef y trydydd cam.

Cam 3:
Bellach mae gan y deg terfynydd flwyddyn i roi eu dull ar waith a dangos y gostyngiad mewn allyriannau CO2, gan rychwantu mis Hydref 2008 i fis Hydref 2009. I helpu’r terfynwyr yn y cyfnod hwn, rydym yn darparu cyngor a chymorth ariannol o £20,000 i bob prosiect. Yn ystod y flwyddyn, byddwn yn monitro ac yn asesu cynnydd pob grwp, gan weithio’n agos gyda’n tîm archwilio. Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwn yn cyhoeddi’r enillydd.

Mwy o wybodaeth am yr hyn mae ein beirniaid yn chwilio amdano.

Beth yw’r wobr?

Mae NESTA wedi ymrwymo cronfa wobr £1 miliwn i wobrwyo’r terfynwyr sy’n perfformio orau yn erbyn ein meini prawf. Disgwyliwn y bydd y rhan fwyaf o’r gronfa wobr yn mynd i un enillydd cyffredinol, gyda gweddill arian y wobr yn cael ei ddosbarthu i’r nesaf orau yn ôl disgresiwn y beirniaid.

People

NESTA

Green Angels

Tags

We've been reading...