Cwestiynau Cyffredin
- Cymryd rhan yn y gystadleuaeth - a yw fy ngrwp yn gymwys?
-
Mae Her Fawr Werdd NESTA yn agored i grwpiau / sefydliadau di-elw, a bydd raid i chi brofi eich bod yn bodloni’r amod hon cyn y cewch eich derbyn i’r rownd olaf. Does dim rhaid i chi fod wedi eich sefydlu’n ffurfiol fel grwp di-elw ar gyfer y cam ymgeisio cyntaf, felly efallai y byddech yn ystyried ffurfio grwp newydd i gystadlu am y wobr hon os nad oes grwp addas yn bodoli eisoes.
Gallwch fod yn grwp lleol, cenedlaethol neu ar y rhyngrwyd. Mae enghreifftiau o grwpiau cymwys yn cynnwys grwpiau neu glybiau cymunedol cydweithredol, elusennau, grwpiau gwirfoddol, cynghorau cymuned a sefydliadau di-elw mwy. Cyhyd â’ch bod wedi eich cofrestru’n ffurfiol fel sefydliad di-elw erbyn diwedd Cam 2, gallwch gael eich ystyried wrth ddewis rhai ar gyfer y rownd olaf.
- Cymryd rhan yn y gystadleuaeth - beth yw ‘di-elw’?
-
Wrth ddi-elw , mae NESTA’n golygu sefydliad sydd â’i amcan sylfaenol yn golygu ei fod yn cefnogi mater o ddiddordeb neu bryder cyhoeddus ar gyfer bwriadau anfasnachol, ac sydd ddim yn gallu rhannu elw (ee. does ganddo ddim cyfranddalwyr). Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys mentrau sydd heb fuddiannau perchnogaeth diffiniedig y gellir eu gwerthu neu eu trosglwyddo, ac sy’n gweithredu’n llwyr er budd y gymdeithas neu’r gymuned.
- Cymryd rhan yn y gystadleuaeth - a yw fy ysgol / fy mhrifysgol yn gymwys?
-
Bydd rhai sefydliadau sydd â chysylltiad ag ysgol neu brifysgol yn gymwys i ymgeisio - megis Cymdeithas Rhieni ac Athrawon ysgol, neu elusen sy’n gysylltiedig â neu yn cael ei rhedeg gan ysgol neu brifysgol. Ond ni fydd ysgolion a phrifysgolion sydd ddim yn elusennau rhestredig yn cael cynnig eu hunain fel arfer.
Wrth gwrs rydyn ni’n croesawu ysgolion a phrifysgolion i gymryd rhan fel cymunedau ehangach yr ymgeiswyr.
- Cymryd rhan yn y gystadleuaeth - beth yw cymuned?
-
Rydyn ni’n disgwyl i’r mathau o gymunedau sy’n cymryd rhan yn yr Her Werdd Fawr fod yn amrywiol - o ran maint ac o ran yr hyn sy’n eu tynnu at ei gilydd - e.e. cyfeillgarwch, diwylliant, ffydd, cenedligrwydd, ymrwymiad gwleidyddol, cydweithwyr neu ddiddordebau hamdden. Gall y cymunedau hyn fod wedi eu sefydlu yn eich ardal leol neu fe allen nhw fod wedi eu gwasgaru ar draws ardaloedd eang. I gael diffiniad ffurfiol o ‘gymuned’ ewch i wefan y Sefydliad Datblygiad Cymunedol.
Rydyn ni eisiau i chi ddiffinio’ch cymuned eich hun fel rhan o’r Her. Mae hyn oherwydd ein bod eisiau i grwpiau neu sefydliadau feddwl yn greadigol am ffyrdd blaengar o ymgymryd â’r Her hon. Rydyn ni’n disgwyl i gymunedau gael eu diffinio’n wahanol gan bob un sy’n ymgeisio, ac mae’n debygol y bydd maint a natur pob cymuned yn amrywio’n fawr, gan gynnig eu hunain i ymdriniaethau gwahanol. Ond pa ffordd bynnag y byddwch yn diffinio’ch ‘cymuned’, bydd y meini prawf ar gyfer yr Her Fawr Werdd yn aros yr un peth.
Cofiwch - mae cymuned yn cael ei diffinio fel mwy na dim ond y bobl sy’n aelodau o’r gymuned. Dylai gynnwys sut mae’r gymuned yn defnyddio ynni (fel y gellir mesur unrhyw ostyngiad yn y gollyngiadau CO2). Felly, bydd angen i chi ystyried ac efallai gynnwys y gweithgareddau, y bobl, a’r adeiladau a’r cyfarpar a ddefnyddir gan, ac sy’n rhan o’r gymuned.
- Cymryd rhan yn y gystadleuaeth - beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘grwp’ a ‘chymuned’?
-
Yn gyffredinol bydd yr ymgeisydd yn cael ei ddiffinio fel grwp neu sefydliad di-elw. Dylai’r grwp yma sy’n ymgeisio ddiffinio’r ‘gymuned’ ehangach maen nhw’n rhan ohoni ac y byddan nhw’n gweithio gyda hi yn ystod yr Her. Bydd gan y grwp sy’n ymgeisio fodd i ostwng gollyngiadau C02 fydd yn ymwneud â, ac yn cynnwys gweithgaredd gan, eu cymuned.
- Cymryd rhan yn y gystadleuaeth - beth a ddylai
grwpiau neu sefydliadau ei ystyried wrth ddiffinio cymuned? -
Ar gyfer Cam 1, bydd angen i chi ddisgrifio’n fras y gymuned y byddwch yn gweithio gyda hi, ond does dim angen i chi fod â chynlluniau manwl ynglyn â diffiniad o’ch cymuned ar y dechrau. Ond, byddai’n gwneud synnwyr i ddechrau cynnwys eich cymuned yn y gweithgareddau cyn gynted â phosibl yn y broses gynnig. Cofiwch y bydd defnydd y gymuned o ynni, yn ogystal ag un y grwp, yn cael ei fesur.
Os cewch eich dewis i Gam 2 bydd rhaid i chi fod yn hollol glir yn eich cais ar gyfer y cam olaf beth ydych chi yn ei ystyried sydd ac sydd ddim yn rhan o’ch cymuned. Bydd yn rhaid i ni gymeradwyo’ch diffiniad a sut y byddwch chi yn mesur defnydd ynni gan y gymuned honno. Bydd yn rhaid i’ch gweithrediadau ystyried ac o bosib cynnwys y gweithgareddau, y bobl, a’r adeiladau a’r cyfarpar a ddefnyddir gan, ac sy’n rhan o’r gymuned honno.
Os ydych chi eisiau mwy o eglurhad, gallwch ddod i siarad â ni wyneb yn wyneb yn un o’r digwyddiadau rhanbarthol, neu cysylltwch â ni trwy swyddfeydd rhanbarthol ein partner Unltd. Fe fyddwn hefyd yn cyhoeddi astudiaethau achos gwych ac awgrymiadau pellach ar ein blog i’ch helpu chi.
- Cymryd rhan yn y gystadleuaeth - sut y galla’ i ddysgu mwy?
-
Gallwch:
- Gofrestru i dderbyn y newyddion diweddaraf ar e-bost
- Cofrestru ar borth RSS ar gyfer y wefan hon. Dysgwch fwy am byrth RSS.
- Mynychu un o’n digwyddiadau rhanbarthol
- Cysylltu â ni neu â’n partneriaid.
- Cymryd rhan - beth ddylwn i ei wneud nawr?
-
Yn gyntaf, mynnwch gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Her Fawr Werdd drwy gofrestru i gael ein diweddariadau e-bost.
Yna dechreuwch feddwl am grwpiau a chyrff y gallech chi wneud cais drwyddyn nhw neu ar eu rhan. Ydy unrhyw rai o’r rhain yn gymwys ac yn awyddus i gystadlu? Pa gymuned ydych chi eisiau ei chynnwys? Ceisiwch gael eich grwp neu gorff a’r gymuned ehangach ynghyd - trafodwch bethau a dechreuwch lunio’ch cais.
- Cymryd rhan - beth yw’r amserlen?
-
Tachwedd - Rhagfyr 2007: Digwyddiadau rhanbarthol yn cael eu cynnal i hyrwyddo’r Her Fawr Werdd.
Ionawr 2008: Ffurflen gais Cam 1 yn mynd yn fyw ar y wefan hon.
11:59yp, 3 Mawrth 2008: Dyddiad cau i gyflwyno ffurflenni cais Cam 1.
Gwanwyn cynnar 2008: Cyhoeddi ‘enillwyr’ Cam 1 a’u gwahodd i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer Cam 2.
Gwanwyn hwyr 2008: Dyddiad cau i gyflwyno cynlluniau manwl Cam 2.
Haf 2008: Cyhoeddi enillwyr Cam 2 (y ‘terfynwyr’).
Hydref 2008 - Hydref 2009: Terfynwyr Cam 3 yn rhoi eu hatebion ar waith, a’r rheiny yn cael eu mesur a’u harchwilio drwy gydol y flwyddyn.
Tachwedd 2009: Cyhoeddi’r enillydd a’r eilion gorau. - Cymryd rhan - pa gefnogaeth sydd ar gael i ymgeiswyr?
-
Os oes gennych chi gwestiynau neu os oes arnoch angen cyngor ar sut i baratoi cais, gallwch chi naill ai ddod i ddigwyddiad rhanbarthol neu gysylltu ag un o swyddfeydd rhanbarthol ein partner UnLtd. Hefyd fe welwch chi astudiaethau achos i’ch ysbrydoli a chysylltiadau defnyddiol ar y wefan hon dros yr ychydig fisoedd nesaf - cofrestrwch i dderbyn diweddariadau am y rhain.
Os cewch eich gwahodd i ddatblygu cynnig manwl yng Ngham 2, byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad pellach drwy gyfres o ‘gymorthfeydd’ rhanbarthol.
Bydd cyngor manylach, cymorth ac arian posibl o hyd at £20,000 ar gael i’r terfynwyr ar sail ceisiadau unigol. Bydd yr union gymorth sydd ar gael yn cael ei deilwra i anghenion y terfynwr a’u syniadau.
- Cymryd rhan - sut mae fy ngrwp i yn ennill?
-
Bydd y gronfa wobrau’n gwobrwyo grwpiau neu gyrff di-elw sy’n gallu cyflawni, drwy syniadau arloesol, gostyngiadau mesuradwy yn eu gollyngiadau CO2 yn eu cymunedau.
Bydd gan derfynwyr flwyddyn i roi eu hatebion ar waith a dangos pa mor bell y gallant fynd tuag at, neu hyd yn oed ragori ar, ostyngiad o 60% mewn gollyngiadau CO2 yn eu cymuned.
Bydd y grwp neu gorff buddugol wedi:
- cyflawni gostyngiadau sylweddol mewn gollyngiadau CO2 yn eu cymuned;
- profi bod eu syniadau yn gweithio wrth gynnwys ac ymgysylltu â’u cymuned;
- ein hargyhoeddi y bydd eu hymagwedd yn cario ymlaen i weithio ar ôl i’r Her ddod i ben;
- dangos potensial y gall eu hateb weithio hefyd mewn cymunedau eraill, ar raddfa fawr neu mewn cyd-destun gwahanol;
- dangos eu gallu i arloesi.
- Barnu - pwy sy’n penderfynu ar enillwyr y gwobrau?
-
Rydym yn dod â phanel proffil-uchel o feirniaid ynghyd, y bydd eu harbenigedd cyfunol yn rhychwantu materion newid hinsawdd, gweithredu cymunedol, ac arloesi.
Bydd penderfyniad y beirniaid hefyd yn cael ei lywio gan adroddiadau oddi wrth ein tîm archwilio carbon (CRed) i sicrhau bod yr arbedion carbon sy’n cael eu cyflawni gan y terfynwyr yn cael eu mesur mor gywir â phosibl.
- Barnu - beth ydych chi yn ei feddwl wrth arloesi?
-
Edrychwn ar arloesi yn eang iawn. Rydym am annog meddwl newydd am y ffordd rydym ni’n byw ein bywydau, er mwyn darganfod dulliau newydd a gwell o ymdrin â newid hinsawdd. Gall hyn olygu meddwl am syniad newydd sbon, gall olygu cyfuno pethau mewn ffordd newydd, neu ddarganfod ffyrdd newydd o wneud i atebion presennol weithio’n well.
- Y gronfa wobrau - pryd fydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobrau?
-
Rydym yn disgwyl i’r enillwyr dderbyn eu gwobrau ar ffurf taliadau unwaith-ac-am-byth ar ôl i’r enillwyr gael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, bydd amgylchiadau pob grwp buddugol yn cael eu trafod cyn pennu hyn yn derfynol.
- Y gronfa wobrau - fydd yr £1 miliwn yn mynd i un grwp?
-
Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o’r gronfa wobrau fynd i enillydd cyffredinol, yn dibynnu ar berfformiad yn erbyn ein meini prawf. Bydd gweddill yr arian gwobrau yn mynd i nifer fach o eilion gorau yn ôl disgresiwn y beirniaid.
- Y gronfa wobrau - at beth y gellir ei defnyddio?
-
Gwobr yw hon felly nid ydym am osod gormod o gyfyngiadau ar beth all enillwyr ei wneud gyda hi. Ar yr un pryd rhaid i’r enillwyr ein bodloni y caiff yr arian ei wario yn briodol er budd eu cymuned gyfan.
- Cyffredinol - Beth yw ystyr arbed carbon?
-
Wrth i ni ddefnyddio ynni – troi gwres neu oleuadau ymlaen, gyrru ceir, neu hyd yn oed fwyta bwyd, mae carbon yn llosgi’n rhywle i ddod yn garbon deuocsid (a ysgrifennir yn aml fel CO2). Er enghraifft, gall CO2 ddod o’r glo neu’r nwy a losgir mewn gorsafoedd pwer, y petrol yn eich car, o wneud y gwrtaith a ddefnyddir i dyfu’ch bwyd ac o’r lorïau sy’n ei gludo.
Y carbon deuocsid hwn o bobl ‘yn gwneud pethau’ yw un o achosion newid yn yr hinsawdd. Mae carbon deuocsid yn dal gwres o’r Haul ac o ganlyniad mae tymereddau cyfartalog yn codi wrth i’r crynodiad o garbon deuocsid gynyddu. Felly er mwyn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, mae angen i ni gynhyrchu llai o garbon deuocsid - i ‘ddefnyddio llai o garbon’.
Mae rhai mathau o ‘arbedion carbon’ yn hawdd eu mesur – e.e. bydd defnyddio darlleniadau’ch mesuryddion trydan a nwy yn dangos faint o’r rhain rydych chi’n eu defnyddio. Mae arbedion carbon sy’n llai uniongyrchol – e.e. o rannu car neu gompostio – yn fwy heriol i’w mesur. Yn ystod y wobr byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr i gynnig cyngor i gystadleuwyr ar ffyrdd o fesur mathau gwahanol o arbedion carbon.
- Cyffredinol - Ydym ni’n allyrru CO2?
-
Ydym. Mae faint o CO2 rydych chi’n ei allyrru yn dibynnu ar eich ffordd o fyw, er enghraifft:
- Maint a math eich ty.
- Sut rydych yn gwresogi’ch ty a’ch dwr.
- Y cyfarpar sydd gennych yn eich ty. Pa mor aml rydych chi’n eu defnyddio, a faint o ynni maen nhw’n ei ddefnyddio.
- Eich ymddygiad. Ydych chi’n gadael goleuadau ymlaen mewn ystafell wag, neu’n llenwi’r tegell pan fydd ond angen dwr ar gyfer un cwpan arnoch chi?
- Y cludiant a ddefnyddiwch. Y math o gar a pha mor bell rydych yn ei yrru. P’un a ydych chi’n defnyddio cludiant cyhoeddus a/neu’n cerdded, nifer yr hediadau yr ewch arnynt ac yn y blaen.
- Y cynhyrchion a’r gwasanaethau rydych chi’n eu prynu er enghraifft, prynu ffrwythau a llysiau sydd wedi eu hedfan i mewn o wledydd eraill.
Mae llawer o ffactorau yn eich bywyd bob dydd sy’n cyfrannu at eich allyriannau CO2. Mae cyfanswm eich allyriannau CO2 yn aml yn cael ei alw eich ôl troed carbon.
- Cyffredinol - Sut allwn ni leihau ein hallyriannau CO2 emissions?
-
Cyn dechrau lleihau’ch allyriannau CO2 mae’n syniad da bod yn ymwybodol o’u ffynhonnell – eich allyriannau gwaelodlin. Bydd hyn yn caniatáu i chi roi sylw arbennig i feysydd lle bydd gostyngiadau’n arbennig o effeithiol.
G
all gostyngiadau mewn CO2 ddeillio o newidiadau syml mewn ymddygiad neu o syniadau creadigol ac arloesol newydd. Gallai hyn gynnwys meddwl am syniad newydd sbon, gallai olygu cyfuno pethau mewn ffordd newydd, neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud i atebion presennol weithio’n well. Golwg eang iawn o arloesi sydd gennym ni. Nid yw’r arloesiadau gorau o reidrwydd yn dechnegol neu’n wyddonol – gallent olygu ad-drefnu sut mae pobl yn gwneud pethau, er enghraifft. - Cyffredinol - Beth yw’r potensial i leihau C)2?
- Mae potensial aruthrol i leihau CO2 yn eich cymuned. Mae modd trosi bwriadau i leihau allyriannau CO2 yn arbedion go iawn drwy gynllunio, trefnu a chyfranogiad y gymuned. Yn ystod yr Her Werdd Fawr rydym am i ymgeiswyr feddwl am darged o ostyngiad o 60%. Efallai mai dyma’r targed a bennir ar gyfer 2050 am ostyngiadau mewn CO2 yn y DU gan y Mesur Newid Hinsawdd sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd.
- Cyffredinol - Sut mae arloesi gan gymuned yn rhoi gostyngiadau mesuradwy mewn allyriannau C02?
-
Drwy gymharu’ch allyriannau CO2 cyn ac ar ôl i’ch cymuned arloesi, byddwch yn gallu mesur y gostyngiadau rydych chi wedi eu cyflawni.
Fe gewch chi gyngor a chefnogaeth drwy gydol yr Her am sut i fesur a chofnodi’ch allyriannau gwaelodlin a’ch gostyngiadau CO2.
Yn dibynnu ar eich prosiect, gallai casglu data gynnwys:
- Darlleniadau gwirioneddol mesuryddion trydan a nwy, derbynebau am danwydd a ddefnyddiwyd e.e. glo, pren, nwy potel.
- Cofnodion teithio, derbynebau tanwydd, rhannu car, cofnodi teithiau pellter hir. Dyddiaduron teithio e.e. ar gyfer cludiant cyhoeddus, beicio ac ati.
- Cofnod o’r newidiadau mewn ymddygiad sydd wedi eu cychwyn e.e. bysiau cerdded i’r ysgol ac ati.
- Bwyd e.e. bwyd a dyfir yn lleol, compostio cartref ac ati.
- Cyffredinol - sut mae hyn yn wahanol i fentrau eraill newid hinsawdd?
-
Mae’r Her Fawr Werdd gan NESTA yn canolbwyntio ar arloesi ac ar weithredu cymdeithasol ar lawr gwlad fel ei gilydd. Mae’n unigryw yn ei ffocws ar ymatebion arloesol gan grwpiau di-elw sy’n gweithio gyda chymunedau, a dyma’r unig gronfa wobrau fawr sydd wedi ei sefydlu i annog hyn.
Mae’r Her Fawr Werdd hefyd yn wahanol i gynlluniau grant ‘traddodiadol’, am ei bod yn wobr sy’n gwobrwyo gostyngiad CO2 gwirioneddol, ac nid dim ond y bwriad i leihau gollyngiadau.
Rydym hefyd yn gweithio yn agos gyda chyrff eraill, o’r llywodraeth a’r tu hwnt, sy’n gweithio naill ai i ysgogi arloesi neu i annog camau mewn ymateb i newid hinsawdd. Ein nod yw sicrhau:
- nad ydym yn dyblygu beth maen nhw eisoes wedi ei wneud;
- ein bod yn adeiladu ar eu gwaith; ac
- ein bod yn dylanwadu yn gadarnhaol ar eu cynlluniau yn y dyfodol.
People
Green Angels
NESTA
Tags
application form apply ashden awards baywind bedzed birmingham carbon neutral cars case study children community conference congestion consumers creativity defra education energy bike energy efficiency Energy use events government ideas incentives innovation intellectual property inventors launch london media mp network podcast recycling renewable energy report scotland sheffield survey susmo technology tips webcast webchat wind energyWe've been reading...
- Springwise: Eco & Sustainability ideas
- Want to cut your carbon? Join our club | The Observer
- Energy Saving Day : E-Day : Leave It Off : 27-28 Feb 2008
- Carbon Connections
- Green, healthy and fair - Sustainable Development Commission
- Clean, efficient and in a town near you | Guardian Unlimited
- A town called eco | Guardian Unlimited
- Sustainable Development Commission: Case Studies
- Carbon fast - Tearfund
- Church advocates carbon fast for Lent | guardian.co.uk
